|

Croeso!
Mae Ye Olde Bulls Head Inn, neu'r Bull ar lafar gwlad, yn llawn
hud hanes! Wedi'i lleoli yn un o ardaloedd pertaf Cymru ac yn wir
y Deyrnas Unedig, mae'n arddel y safonau uchaf.
Wedi'i lleoli ar
ochr dde ddwyrain Ynys Môn y mae'r golygfeydd dros afon Menai
ac Eryri o dref Biwmares yn rhai syfrdanol.
Adeiladwyd y Bull yn wreiddiol yn 1472 fel coetsiws cyntaf y Bwrdeistref
ac fel arhosfan ar y ffordd i Iwerddon. O fewn tafliad carreg i
gastell 13eg ganrif Edward I, mae'r dafarn yn rhan annatod o hanes
y dref.
Dros y blynyddoedd y mae'r perchnogion preifat wedi
sicrhau bod yr adeilad wedi esblygu'n gall i'r pwynt lle mae gwesteion
heddiw'n
mwynhau'r lefelau uchaf o foethusrwydd ac ansawdd. Canmolir safon
y fwydlen yn y Bwyty a'r Brasserie mewn arweinlyfrau bwyd enwog
a chylchgronau rhyngwladol.
Daw'r teimlad llwyr hwnnw o ymlacio a lles, fodd bynnag, nid yn
unig o safon y gwasanaeth ond hefyd o'r modd y'i cyflawnir. Mae
teimlad o falchder a pherthyn yn sicrhau bod y staff yn gwrtais,
yn gyfeillgar ac yn effeithiol a byddant yn sicrhau y bydd eich
arhosiad yn un bythgofiadwy.
|