|

Beaumaris – Hanes Byr
Sefydlwyd yr hen fwrdeistref a thref fodern Biwmares gan Frenin
Seisnig, Edward 1, oherwydd ei gastell o'r 13eg ganrif. Unig bwrpas
y dref garsiwn a adeiladwyd ar dir oedd yn wag tan hynny oedd i
gyflenwi anghenion llu milwrol y castell mewn gwlad a ymddangosai'n
fygythiol. Roedd gan ddinasyddion gwreiddiol Biwmares un o'r garsiynau
cryfaf yn Ewrop ac eto nid oedd gan y dref y gwladychwyr amddiffynfeydd
rhag ymosodiad nes i fur gael ei adeiladu o'i chwmpas yn 1410.
Gyda threigl amser datblygodd y dref garsiwn yn dref sirol i ynys
Môn ac yn fuan dechreuodd y Cymry, nad oedd croeso iddynt
ar y cychwyn, ymsefydlu ynddi. Fan hyn roedd y prif lysoedd barn.
O ganol y 16eg cynhaliwyd etholiadau yma. Cynhaliwyd digwyddiadau
cymdeithasol y sir megis y rhai'n ymwneud â helfa ynys Môn
yma hefyd. Roedd yr holl weithgareddau hyn yn denu bonedd ynys
Môn i Fiwmares gan fod angen lle addas ar gyfer cyfarfodydd
a chynulliadau. O yn gynnar iawn yn y 18fed ganrif y Bull oedd
y lle hwnnw.

BEAUMARIS - Hanes y dref
Llyfr diddorol iawn a olygir gan Robert Williams
Ar un adeg roedd arfordir de ddwyrain ynys Môn yn ganolfan
bwysig i ddiwylliant a rheolaeth y Cymry. Penderfynodd goresgynwyr
o Loegr adeiladu amddiffynfa gadarn yn y berfeddwlad Gymreig hon.
Codwyd castell ar 'gors hardd', Beau Mareys, ger y môr.
Erbyn heddiw, canrifoedd wedyn,
mae tref fach Biwmares gyda'r rhai mwyaf diddorol ym Mhrydain.
Mae'r hanes cyffrous a'r lleoliad ysblennydd yn denu ymwelwyr
o bedwar ban y byd i'r Safle Treftadaeth Byd.
|
 |
Mae copïau o'r llyfr ar gael o'r Bull.
Pris: £10 yr un (postio am ddim o fewn gwledydd Prydain)
|