haneslletyy bwytyy brasseriey barcyfeiriadaucysylltu a ni
     

ciniawa yn y Y Bwyty

 

Grisiau hynod yn y Bull

Cyflwyniad

Mae Ye Olde Bulls Head Inn, sy'n gymysgedd soffistigedig o'r hen a'r newydd, yn croesawu gwesteion ers y 15fed ganrif. Mewn perchnogaeth breifat, mae ganddo leoliad strategol yng nghanol tref bert a hanesyddol Biwmares.

Yn adeilad wedi'i restru ar raddfa II, mae'r Bull wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y dref dros y canrifoedd. Meddiannodd y Cadfridog Mytton, un o gadfridogion Cromwell, y dafarn yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr: ar y llaw arall dyma oedd un o dai cwrdd cynharaf y Crynwyr a gofnodir ar ynys Môn yn y 18fed ganrif. Y mae llawer o enwogion wedi aros ynddo - y nofelydd Charles Dickins a'r dyddiadurwr Dr Samuel Jonson - i enwi dau ohonynt.

Mae'r addurniadau cyfoes sy'n cyd-fynd â'r hen goed, y celfi ac olion hynafol yn cadw cymeriad hanesyddol y Bull. Adlewyrchir y nodweddion hyn eto drwy'r ystafelloedd gwely a ddyluniwyd yn unigol ac y mae i bob un ei chymeriad a'i hawyrgylch ei hunan.

Ceir dau ddewis gwahanol ar gyfer ciniawa, a'r ddau ohonynt yn haeddu gwobr. Mae addurniadau hyderus a nodweddion gwreiddiol yn Y Bwyty yn creu amgylchedd cain ar gyfer ciniawa ffurfiol tra bod Y Brasserie bywiog yn darparu dewis mwy anffurfiol.

Mae'r bar rhyddfraint yn cadw ei awyrgylch traddodiadol gyda nifer helaeth o hen bethau, tân coed agored a thrawstiau derw. Mae'r bar, sy'n boblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr, wedi ennill bri am ei gwrw gwych a dynnir â llaw.

 

Ye Olde Bulls Head Inn. Stryd y Gastell. Biwmares. Ynys Môn. LL58 8AP
ffôn: 01248 810329 ebost: info@bullsheadinn.co.uk