|




|
 |

Hanes - Ye Olde Bulls Head Inn
Adeiladwyd Ye Olde Bulls Head Inn gwreiddiol yn 1472 er credir
bod rhai o furiau'r ddaeargell yn dyddio yn ôl i'r oesoedd
canol. Yn fuan yr aeth yn lle pwysig i gwrdd, ar gyfer masnachu
a chymdeithasu.
Yn ôl y chwedloniaeth defnyddiodd y Cadfridog Thomas Mytton
(1608-1665) y Bull fel ei bencadlys yn ystod gwarchae Biwmares
yn ystod ail Ryfel Cartref Lloegr yn 1648.
Ym Mehefin 1733 aeth John Kelsall (1683-1743) o Ddolgellau, Crynwr
amlwg yng Ngogledd Cymru, ar daith genhadol i Ynys Môn gan
geisio sicrhau y câi tai ac adeiladau eraill eu cofnodi'n
gyfreithiol fel tai cwrdd y Crynwyr. Ar 13 Mehefin 1733 aeth ar
gefn ceffyl o Gaergybi i Langefni ac wedyn i Fiwmares. Arhosodd
yn y Bull, a chwrdd â'r Arglwydd Bulkeley, perchennog Ystad
Baron Hill, a gytunodd y gellid cofnodi'r Bull, ymhlith adeiladau
eraill yr ystad, ar ei gofrestr. Cofnodwyd y Bull yn sesiwn nesaf
y Crynwyr ac felly, y Bull, oedd un o Dai Cwrdd Cyntaf y Crynwyr
ar Ynys Môn i gael ei gofnodi.
Un o uchafbwyntiau cymdeithasol y flwyddyn ym Miwmares oedd wythnos
yr hela a drefnid gan Helfa Ynys Môn. Fe'i sefydlwyd yn 1757,
credir yn gyffredinol mai dyma oedd yr helfa hynaf ym Mhrydain,
fe'i diddymwyd yn swyddogol yn ail hanner yr 20fed ganrif. Yn y
1780au roedd digwyddiadau'r wythnos yn cynnwys gorymdaith ar gefn
ceffyl drwy'r bwrdeistref a dau chwaraewr corn Ffrenig yn ei harwain.
I ddathlu'r gweithgareddau cynhelid dawnsfeydd mawr a chiniawau
yn y Bull, gydag aelodau'r Helfa yn hela liw dydd ac yn cymdeithasu
liw nos.
Ymwelydd arall oedd y Parch. John Elias (1774-1841). Dywedir iddo
geisio lloches yn y Bull yn ystod terfysgoedd 1812. John Elias
oedd un o weinidogion ordeinedig cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd
ac aeth yn un o'u pregethwyr amlycaf. Fe'i hystyriwyd i fod yn
Dori rhonc a byddai'n gas gan y terfysgwyr fe! Mae'n rhaid i ryw
gyffro ddigwydd yn 1812 oherwydd y flwyddyn ddilynol cyhoeddodd
y Maer a'r Beilïod broclamasiwn yn bygwth cosbau llym ar unrhyw
rai a derfysgai eto.
Yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif cafodd
Biwmares fath newydd ar ymwelwr. Fel arfer buasai bonedd Prydain
wedi teithio drwy Ewrop ond bellach arhosent gartref oherwydd y
chwyldro Ffrengig a Rhyfeloedd Napoleon. Roedd hyn yn dda i dwristiaeth
Brydeinig, a darganfu llawer bleserau eu mamwlad eu hunain.
Ymwelodd y cyfryw deithwyr â Biwmares, ac arhosodd nifer
ohonynt yn Ye Olde Bulls Head Inn. Yn eu plith roedd Edward Pugh
a ddaeth yn wreiddiol o Ruthun, ond a oedd yn byw gan fwyaf yn
Llundain (1761-1813). Pugh oedd awdur un o'r teithlyfrau cyntaf
i gael ei ysgrifennu a'i ddarlunio gan Gymro - Cambria Depicta:
A Tour Through North Wales.
Ffeithiau Diddorol
| Yn aml byddai tafarnwyr yn codi arfbais, neu
ran ohoni, landlord y tir, sef perchennog yr adeilad lle roedd
y tafarn, fel arwydd. Pen tarw oedd crib arfbais teulu Bulkeley
o Baron Hill, perchnogion y Bull am ganrifoedd. |
Mae cyfrifon ystâd Baron Hill yn cofnodi'r
rhent a dalwyd gan landlordiaid Ye Olde Bulls Head Inn. yn
1719, talodd John Davies, morwr, £5.15s o rent y flwyddyn
ar gyfer ei d· a'r gerddi cysylltiedig yn Stryd y
Castell,
enw'r t· oedd Bull's Head Inn. Yn 1765 landlord y Bull oedd William Williams:
talai £9 y flwyddyn. Yn 1767 y landlord oedd David Braillard: talodd yntau £22
yn flynyddol. Yn ddiweddarach yn y 18fed ganrif roedd y rhent wedi codi i £35
y flwyddyn ac erbyn 1804 talai James Harris £77. |
Mae llawer o rannau o'r adeilad, gan gynnwys
trawstiau'r to, yn hen iawn. Ailadeiladwyd yr adeiladwaith
pren gwreiddiol â cherrig yn 1617 ac er iddo gael ei
ymestyn a'i foderneiddio, mae llawer o'r darnau hyn yn aros
hyd heddiw. Mae'r grisiau'n dyddio o'r 17eg a'r 18fed ganrifoedd
ond maent wedi'u hailadeiladu ac mae rhannau o furiau'r ddaeargell
i'w cymharu â muriau canoloesol mewn adeiladau secwlar
eraill ym Miwmares. |
Ychydig o fanylion am ddatblygiad y Bull
sydd ar glawr.
Mae arolwg o 1788 yn rhoi golwg inni ar siâp yr adeilad. Yr adeg honno
roedd i'r adeilad gegin, parlwr cefn, parlwr mawr; coetsiws; parlwr bach; cegin
gefn; ystafell fwyta; ystafell wely uwchben y parlwr cefn; ystafell uwchben yr
ystafell facsu; croglofft uwchben yr ystafell facsu a bar! |
Yn 1802 dechreuodd Cymdeithas Llyfrau Biwmares
ddefnyddio'r Bull fel ei phencadlys. Roedd y gr·p
anturus hwn yn codi 6d (2½p) ar aelodau tuag at brynu
llyfrau a chostau traul, sef cost adloniant a llety. Mwynhaodd
y gr·p letygarwch y Bull - gan ddefnyddio'r ystafell
a ddefnyddir bellach fel Lolfa i'n hymwelwyr - am 24 o flynyddoedd
cyn symud i Rif 6 Green Edge, Biwmares. Cyflawnai'r Gymdeithas
rôl bwysig yn y dref, ac yn 1930 trefnodd Regata Biwmares.
Dim ond yn 1885 yr aethpwyd ati i newid y Gymdeithas yn Glwb
Hwylio. Ar 28ain Mehefin 1885 derbyniodd Ardalydd Ynys Môn
lythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref yn dweud bod y Frenhines
wedi cydsynio i gais am nawdd Brenhinol; o'r dyddiad hwnnw
adnabyddir y Clwb fel y Clwb Hwylio Brenhinol. |
Mae'n rhaid i'r Bull gael ei adnewyddu'n
helaeth yn y cyfnod rhwng 1816 a 1818. Yn ystod y cyfnod
hwnnw talodd Ystâd Baron Hill £250 12s 7d am "welliannau
i'r Bull Inn". |
Mae Ye Olde Bulls Head Inn wedi'i adnewyddu'n
helaeth er 1818 ond eto mae'n cadw llawer o'i nodweddion
gwreiddiol. Yn y 21ain Ganrif mae'r Bull yn lle cyffyrddus,
twym a llawen. Lle roedd pobl o bob rhan o Ynys Môn
yn cwrdd bellach daw'r bobl o bedair ban y byd. |
Hoffem ddiolch i Tomos Roberts (cyn Archifydd,
Prifysgol Cymru, Bangor) am ei astudiaeth fanwl ar hanes y Bull.
Mae ei waith wedi rhoi golwg ehangach inni ar bwysigrwydd hanesyddol
yr adeilad a'i le yn hanes Biwmares.
|