Mae gan bob un o'n hystafelloedd en-suite ei swyn unigryw ei hun.
Wrth inni ddiweddaru'r ystafelloedd i safon uchel gan ddefnyddio
hen dodrefn a ffitiadau, rydym wedi mynd ati i gadw'r natur ac
awyrgylch unigryw sy'n nodweddiadol o Ye Olde Bulls Head Inn.
Mae safon y ffitiadau yn yr ystafelloedd ymolchi'n uchel ac yn
cynnwys bath maint llawn a chawod bwerus
Swît Lofthouse
Wedi'i leoli yn y libart cefn, mae'r Swît Lofthouse yn darparu
llety tawel a helaeth i westeion sydd angen moethusrwydd a phreifatrwydd
llwyr.
Mae gwely anferth, teledu sgrîn eang a seddi cyffyrddus yn cyd-fynd â'r
trawstiau derw gwreiddiol a'r addurno chwaethus.
Mr Pickwick
Yn Mr Pickwick ceir gwely pedwar postyn rhamantus o dderw
cerfiedig sydd, ynghyd â hen gelfi eraill, yn gweddu
i'r dim â'r ystafell hon ar y llawr gwaelod.
Mr Peggotty
Mae'r cyfuniad o hen fframiau gwely haearn bwrw a man eistedd
cyffyrddus yn creu ystafell wely ysblenydd ac ymlaciol. Mae
Mr Peggotty, sydd yn y daflod wreiddiol, yn edrych allan
dros y libart, gellir gweld olion amlwg ei hanes yn y fframiau
coed A agored.
Rhestrir y glwyd bren y gellir ei gweld o'r ystafell yn
y Guinness Book of Records fel y glwyd colyn syml fwyaf yng
Ngwledydd Prydain.
Swît Cadfridog Mytton
Wedi ei adnewyddu i’r safon uchaf yn ddiweddar, mae Swît Cadfridog Mytton yn defnyddio trawstiau gwreiddiol y dafarn yn greadigol. Mae’r dodrefn moethus a’r cynllun dychmygus yn gwneud y llofft yma yn berffaith ar gyfer yr achlysuron rhamantus arbennig.
Ystafell Ymolchi - Mr Stiggins
Defnyddiwyd yr un ffitiadau safonol yn llofftydd Mr Stiggins
a Swît Cadfridog Mytton. Mae gwres islawr yn y ddau yn ychwanegu at eu moethusrwydd.